Newyddion
Canfuwyd 203 eitem, yn dangos tudalen 16 o 17

Mwynhewch y gwyliau a diogelu Cymru yr haf hwn yw cyngor Gweinidog yr Economi
Wrth i wyliau'r haf ddechrau, bydd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, heddiw yn ymweld â Llyn Llys y Frân Dŵr Cymru, yn Sir Benfro, i agor yn swyddogol ei atyniad ymwelwyr a'i gyfleusterau hamdden sydd newydd gael eu hailddatblygu.

Buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru yn galluogi canolfan ddringo i anelu’n uwch
Mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, wedi ymweld â Chanolfan Ddringo Boulders yng Nghaerdydd i weld sut mae'r ganolfan wedi defnyddio Cyllid Cadernid Economaidd Llywodraeth Cymru i ddod o hyd i ffyrdd newydd o weithredu - a chadw ymwelwyr yn ddiogel.

NODYN I’R DYDDIADUR - **Nid ar gyfer ei gyhoeddi, darlledu nac ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol**
Ddydd Llun, 12 Gorffennaf, bydd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, yn ymweld â Chanolfan Ddringo Boulders, Caerdydd i weld sut mae cyllid o Gronfa Cadernid Economaidd 3 Llywodraeth Cymru wedi helpu'r busnes i addasu a datblygu. Mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod £2.5 biliwn ar gael i gefnogi busnesau ledled Cymru yn ystod y pandemig, gan helpu i ddiogelu dros 160,000 o swyddi a allai fel arall fod wedi'u colli.

Bydd technoleg lled-ddargludo cyfansawdd yn greiddiol i’r chwyldro diwydiannol nesaf yn ôl Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi
Yn ôl Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi, bydd y sector technoleg lled-ddargludo cyfansawdd yn greiddiol i’r chwyldro diwydiannol nesaf, ac yn hanfodol bwysig i economi Cymru.

Gweinidogion Cymru yn galw ar Lywodraeth y DU i weithredu ar Borthladdoedd Rhydd yng Nghymru
Nid oes sôn eto bod Llywodraeth y DU am roi cynnig ger bron Llywodraeth Cymru i sefydlu porthladd rhydd yng Nghymru. Dyna fydd neges Gweinidogion Cymru wrth bwyllgor yn San Steffan yn ddiweddarach heddiw.

Cadw ymwelwyr a Chymru'n ddiogel yr haf hwn
Mewn sesiwn ar-lein a gynhaliwyd gan Croeso Cymru heddiw, cafodd busnesau twristiaeth gyfle i glywed gan yr RNLI a Mentro’n Gall Cymru am sut i helpu gwesteion ac ymwelwyr i fod yn fwy diogel yn yr awyr agored yr haf hwn.

Gostyngiad ardrethi busnes llawn yn parhau yng Nghymru
Mae Llywodraeth Cymru yn atgoffa busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch yng Nghymru na fydd yn rhaid iddynt dalu unrhyw ardrethi tan fis Ebrill 2022 wrth i ostyngiadau llawn yn Lloegr ddod i ben yfory (1 Gorffennaf).

Gweinidog yr Economi yn cadarnhau cymorth pellach gan Lywodraeth Cymru i fusnesau y mae cyfyngiadau Covid yn effeithio arnynt
Heddiw, cyhoeddodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, bydd busnesau yng Nghymru sy'n dal i deimlo effeithiau cyfyngiadau Covid yn cael hyd at £25,000 o gymorth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru.

Llywodraeth Cymru yn estyn mesurau i amddiffyn busnesau rhag cael eu troi allan tan ddiwedd mis Medi 2021
Bydd busnesau sy’n dioddef effeithiau pandemig y Coronafeirws yn cael eu hamddiffyn rhag cael eu troi allan tan ddiwedd mis Medi 2021, yn ôl Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething.

Dyfodol cryfach yn disgwyl economi’r Gogledd – Gweinidog yr Economi
Mae dyfodol cryfach yn disgwyl economi’r Gogledd, meddai Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething heddiw yn ystod ei ymweliad â’r rhanbarth

Gweinidogion yn canmol Wockhardt o Wrecsam am eu llwyddiant gyda brechlyn Covid.
Gwnaeth Gweinidogion Cymru ymweld â chwmni Wockhardt yn Wrecsam heddiw i ganmol y gweithlu am eu cyfraniad allweddol at gynhyrchu brechlyn Astra Zeneca sy’n rhan flaenllaw o raglen frechu lwyddiannus Cymru.

O’r glo gorau i brofion technolegol o safon uchel ar gyfer rheilffyrdd: "Canolfan fyd-eang newydd ar y trywydd iawn i drawsnewid cymoedd y gorllewin" – Vaughan Gething
Bydd cyfleuster profi rheilffyrdd newydd o safon uchel ar hen safle cloddio glo brig ym mhen cymoedd Dulais ac Abertawe yn trawsnewid yr ardal drwy greu swyddi newydd o ansawdd uchel, dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi, heddiw.