English icon English

Newyddion

Canfuwyd 223 eitem, yn dangos tudalen 11 o 19

Cwtsh Hostel-2

Cefnogi entrepreneuriaid a datblygiadau llety yn Abertawe

Yn ystod ymweliad, mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething wedi gweld sut mae cyllid gan Lywodraeth Cymru yn helpu entrepreneuriaid lleol i ddatblygu llety newydd o ansawdd uchel yn Abertawe a’r Mwmbwls.

Welsh Government

Cwmni o’r Barri yn ennill cytundeb i allforio anadlenyddion i’r Ffindir

Mae cwmni o Gymru a gynhyrchodd yr anadlennydd electronig cyntaf yn y byd wedi arwyddo cytundeb i allforio cannoedd o anadlenyddion i Lywodraeth y Ffindir, diolch i gymorth allforio gan Lywodraeth Cymru.

Gottwood-2

Cadarnhau Cefnogaeth Digwyddiadau Cymru i Wyliau Gottwood a Merthyr Rising

Bydd Gwyliau Gottwood a Merthyr Rising yn cael eu cynnal dros benwythnos 9-12 Mehefin ac rydyn ni’n disgwyl ymlaen yn fawr at groesawu’r torfeydd yn ôl i ddau ben y wlad.

Laboratory Stock Image-3

Prifysgolion Cymru yn newid bywydau gyda deallusrwydd artiffisial a gwyddor data

Mae buddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn prifysgolion a deallusrwydd artiffisial yn newid bywydau ac yn helpu Cymru i ddod yn arweinydd rhyngwladol yn y maes. Fel rhan o’r Strategaeth Ddigidol i Gymru, mae £500,000 o gyllid yn cael ei rannu rhwng 22 o brosiectau arloesol.

Down to Earth-2

Hwb o £2.9m i Y Pethau Pwysig Cymru - y pethau bach sy'n gwneud gwahaniaeth mawr i brofiad gwyliau

Heddiw, mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi y bydd £2.9m o gronfa gyfalaf Y Pethau Pwysig Llywodraeth Cymru yn cael ei rhannu ymhlith 18 o brosiectau a fydd yn helpu i sicrhau gwelliannau seilwaith ar raddfa fach mewn lleoliadau twristiaeth strategol bwysig ledled Cymru. 

working-10

Llywodraeth Cymru yn cymryd camau i gymryd lle rhaglenni a ariennir gan yr UE i gefnogi pobl sydd â rhwystrau cymhleth i ddod o hyd i waith

  • Llywodraeth Cymru yn camu i'r adwy yn dilyn methiant Llywodraeth y DU i gadw eu haddewid i ddisodli cyllid yr UE yn llawn drwy'r Gronfa Ffyniant a Rennir.
  • Rhaglen Cymru gyfan wedi ei hehangu, a ariennir gan Lywodraeth Cymru i'w lansio ym mis Ebrill 2023.
  • Estynnwyd dau gynllun presennol a ariennir gan yr UE am flwyddyn ychwanegol er mwyn sicrhau pontio llyfn.
Grove WTW-2

Twristiaeth a lletygarwch: sector gwych i weithio ynddo, sy'n helpu i greu profiadau pwysig – Vaughan Gething Gweinidog yr Economi

"Mae twristiaeth a lletygarwch yn sector gwych i weithio ynddo" – dyna neges Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, i nodi dechrau Wythnos Twristiaeth Cymru 2022 (15 – 22 Mai).

Cargo ship-2

Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn cytuno ynghylch sefydlu Porthladdoedd Rhydd yng Nghymru

Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi dod i gytundeb mewn perthynas â sefydlu Porthladdoedd Rhydd yng Nghymru, mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, wedi cadarnhau.

L E M F R E C K 06 Kev Curtis-2

Llywodraeth Cymru yn cefnogi twf a datblygiad digwyddiadau cartref

Mae digwyddiadau celfyddydol a diwylliannol ledled Cymru yn edrych ymlaen at groesawu ymwelwyr yn ôl yn y cnawd dros y misoedd nesaf wrth i drefnwyr newid yn ôl i berfformiadau cynulleidfaoedd byw.  

Welsh Government

Gweinidog yr Economi yn cyhoeddi cyllid gwerth £4.5m ar gyfer y Rhaglen Sgiliau Hyblyg

Mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi heddiw bod Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid gwerth £4.5 miliwn i ddatblygu sylfaen sgiliau busnesau a chreu gweithlu yng Nghymru sy'n barod i fanteisio ar gyfleoedd economaidd yn y dyfodol.

Folly Farm Giraffes-2

Busnesau twristiaeth Sir Benfro yn paratoi ar gyfer y Pasg

Wrth i fusnesau twristiaeth ledled Cymru baratoi ar gyfer y Pasg, ymwelodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, â busnesau yn Sir Benfro sy'n edrych ymlaen at groesawu ymwelwyr yn dilyn datblygiadau a buddsoddiad newydd.