English icon English

Newyddion

Canfuwyd 223 eitem, yn dangos tudalen 6 o 19

PCL - Progress photo 2 - 24.02.2023 - Copyright Pembrokeshire Creamery Ltd 2023

Cyfleuster prosesu llaeth newydd i Sir Benfro: Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Penfro yn sicrhau swyddi a buddsoddiad newydd ym Mharc Bwyd Sir Benfro

Mae Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Penfro wedi gwerthu tir i gwmni o Sir Benfro er mwyn datblygu cyfleuster prosesu llaeth newydd yn y sir, fel rhan o fuddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd.

Innovation Strategy Wales B - Left to Right - Cardiff University Graduation, North Hoyle Windfarm Prestatyn, Operating Theatre, Toyota Deeside Enterprise Zone

Strategaeth Arloesi newydd wedi'i lansio er mwyn creu Cymru Gryfach, Decach a Mwy Gwyrdd

  • Strategaeth arloesi newydd yn nodi dyhead i Gymru fod yn genedl flaengar ac arloesol.
  • Mae’r strategaeth yn canolbwyntio ar sicrhau bod technolegau newydd arloesol yn cael eu datblygu er mwyn helpu i ddatrys yr heriau mwyaf sy'n wynebu cymunedau, gan sicrhau bod yr atebion hynny'n cyrraedd pob rhan o gymdeithas.
  • Drwy gydweithio, y nod yw sicrhau gwell gofal iechyd, mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a’r argyfwng natur, a chreu gwell swyddi a ffyniant i fusnesau, prifysgolion, a chymunedau lleol.
Green Energy Fund-2

Helpu busnesau i dorri costau ynni: Llywodraeth Cymru a Banc Datblygu Cymru yn lansio Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd newydd

Mae cynllun mawr benthyciadau newydd i gefnogi busnesau yng Nghymru i dorri eu costau ynni drwy gymryd camau i ddod yn wyrddach ac yn fwy ynni-effeithlon wedi cael ei lansio heddiw gan Llywodraeth Cymru a Fanc Datblygu Cymru.

Michaelston y Fedw Vaughan Gething Economy Minister February 2023 Broadband Internet 2

Prosiect band eang dan arweiniad y gymuned yn Llanfihangel-y-fedw yn estyn cyrhaeddiad band eang cyflymach diolch i fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru

Mae cynllun band eang dan arweiniad y gymuned mewn pentref gwledig rhwng Caerdydd a Chasnewydd wedi llwyddo i estyn cysylltiadau band eang cyflymach, mwy dibynadwy i ragor o aelodau byth o'r gymuned leol, diolch i gyllid gwerth £525,000 gan Lywodraeth Cymru.

Vaughan Gething SWU SOC 2023-59

Diwrnod Rhyngwladol Menywod a Merched mewn Gwyddoniaeth: Gweinidog yr Economi ym Mhrifysgol De Cymru i gwrdd â menywod sy’n arwain gwyddoniaeth [copy]

Mae Gweinidog yr Economi Vaughan Gething yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol Menywod a Merched mewn Gwyddoniaeth trwy ymweld â labordy fforensig Prifysgol De Cymru (USW) i gwrdd â’r nifer gynyddol o fenywod sy’n gweithio mewn gwyddoniaeth, peirianneg a mathemateg (STEM) ac i annog mwy o fenywod a merched i ystyried gyrfa yn y gwyddorau.

Vaughan Gething IPTEC 2023-38-2

Cynllun Llywodraeth Cymru’n helpu miloedd o bobl ifanc yng Nghymru i gael gwaith

  • Gweinidog yr Economi’n cyhoeddi’r adroddiad blynyddol cyntaf ar y Gwarant i Bobl Ifanc, y cynllun blaengar sy’n helpu pobl ifanc i gael gwaith ac sy’n lleihau diweithdra ymhlith pobl ifanc
  • Mae’r Gweinidog yn cadarnhau rhagor o help i’r bobl ifanc sydd ar raglenni Twf Swyddi Cymru +, ac sy’n ei chael hi’n anodd yn yr argyfwng costau byw. Yn cynnwys costau teithio a phrydau am ddim.
Ice hockey -2

Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau: Gweinidog yr Economi yn annog busnesau i recriwtio prentis

Mae dyn ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol sydd wrth ei fodd â hoci iâ yn helpu clybiau chwaraeon cymunedol yng ngogledd-ddwyrain Cymru i hybu nifer y bobl sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon drwy ddod yn brentis hyfforddwr chwaraeon, diolch i gefnogaeth cynllun rhannu prentisiaeth Llywodraeth Cymru.

Eryri-Gogledd-North Wales-Fibre-Broadband-Gigabit-Copyright Welsh Government 2022

Mae ymgynghoriad wedi agor ar gynigion i’w gwneud yn ofynnol sicrhau cyflymder lawrlwytho o 1 gigadid yr eiliad ym mhob cartrefnewydd sy’n cael ei adeiladu

Mae Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi, a Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd, wedi cyhoeddi ymgynghoriad ar gynigion i’w gwneud yn ofynnol i ddatblygwyr tai sicrhau bod pob tŷ newydd sy’n cael ei adeiladu yn gallu derbyn cysylltiad band eang gigadid.

Frog-2

Busnes Cymru – wrthi ers 10 mlynedd yn helpu busnesau yng Nghymru i dyfu

Ddeng mlynedd ers iddo gael ei lansio, mae Busnes Cymru wedi cefnogi dros 390,000 o entrepreneuriaid a busnesau, wedi helpu i greu dros 19,000 o fusnesau newydd ac wedi rhoi cymorth uniongyrchol i greu bron 47,000 o swyddi yn economi Cymru.

SVW-E18-2122-0060- Welsh Flag on Mountains - Visit Wales

Gweinidog yr Economi yn datgelu rhaglen brysur o deithiau masnach rhyngwladol ar gyfer Gwanwyn 2023

Heddiw, mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, wedi datgelu rhaglen lawn o deithiau masnach rhyngwladol Llywodraeth Cymru ar gyfer gwanwyn 2023, gan gefnogi busnesau Cymru sy'n teithio'r byd yn ystod y misoedd nesaf i ddatblygu eu hallforion.

220713 - VG Events Wales Strategy Launch Speech 1

Gweinidog yr Economi yn galw ar Lywodraeth y DU i ymrwymo i strategaeth economaidd ar gyfer twf cynaliadwy

Mae angen i Lywodraeth y Deyrnas Unedig (DU) ddatblygu strategaeth sefydlog a thymor hir ar gyfer taclo’r heriau economaidd difrifol sy’n wynebu Cymru a’r DU, meddai Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething heddiw.

Yr Athro Jas Pal Badyal wedi'i benodi'n Brif Ymgynghorydd Gwyddonol Cymru

Yr Athro Jas Pal Badyal wedi'i benodi'n Brif Ymgynghorydd Gwyddonol Cymru

Mae cemegydd ymchwil sy’n adnabyddus ledled y byd, yr Athro Jas Pal Badyal FRS, wedi'i benodi yn Brif Gynghorydd Gwyddonol Llywodraeth Cymru.