English icon English

Newyddion

Canfuwyd 223 eitem, yn dangos tudalen 5 o 19

Glass Systems Limited Baglan Industrial Estate artist impression March 2023 Copyright Glass Systems Limited 2023-2

Gwerthu tir Baglan yn paratoi’r ffordd ar gyfer buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd, gan greu 100 o swyddi newydd a diogelu dros 500

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd safle 30 erw ar Ystad Ddiwydiannol Baglan yn cael ei werthu i Glass Systems Limited, a fydd yn diogelu 500 o swyddi yn ogystal â chreu 100 o swyddi newydd hefyd.

Vaughan Gething-23

Gweinidog yr Economi yn cadarnhau cefnogaeth ychwanegol i helpu cyn-aelodau staff 2 Sisters i ganfod swyddi newydd

Mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething wedi cadarnhau bod £206,000 o gyllid ychwanegol ar gael i helpu cyn-staff ffatri 2 Sisters ar Ynys Môn i gael swyddi newydd.

Vaughan Gething-23

Gweinidog yr Economi yn galw ar Lywodraeth y DU i roi rhagor o gymorth i fusnesau sy'n wynebu costau ynni uchel

Rhaid i Lywodraeth y DU wneud mwy i gefnogi busnesau yng Nghymru sy'n wynebu costau ynni cynyddol uwch, mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething wedi dweud.

Creo Medical Logo and Building - Credit Creo Medical Ltd.

Cwmni technoleg feddygol o Sir Fynwy i greu 85 o swyddi fydd yn talu’n dda diolch i gymorth oddi wrth Lywodraeth Cymru

Mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi bod Creo Medical Limited o Sir Fynwy yn ehangu ac y bydd yn creu 85 o swyddi â chyflogau da dros gyfnod o 3 blynedd, ar ôl iddo gael buddsoddiad o £708,000 oddi wrth Lywodraeth Cymru.

Vaughan Gething at KLA, California, USA March 2023-2

Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cynllun i ehangu clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd Casnewydd

  • Gweinidog yr Economi yn cadarnhau bod cymorth Llywodraeth Cymru ar gyfer ehangu clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd Casnewydd yn gwneud cynnydd.
  • Cyfarfu'r Gweinidog ag arweinwyr o'r cwmni cyfarpar lled-ddargludyddion blaenllaw KLA yn ystod ymweliad masnach â Chaliffornia i ailadrodd cymorth Llywodraeth Cymru.
  • Llywodraeth Cymru'n galw ar Lywodraeth y DU i ‘fynd amdani’ gyda strategaeth lled-ddargludyddion sydd wedi'i hariannu'n llawn sy'n cyfateb i uchelgais cystadleuwyr byd-eang.
Freeports Port Talbot March 2023-2

Gweinidog yr Economi yn llongyfarch consortiwm y Porthladd Rhydd Celtaidd ar ei gais llwyddiannus

Roedd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi ym Mhort Talbot heddiw er mwyn llongyfarch y consortiwm Porthladd Rhydd Celtaidd ar ei gais i fod yn borthladd rhydd cyntaf Cymru sydd â’r nod i sicrhau degau o filoedd o swyddi newydd, uchel eu safon yn ne-orllewin Cymru.

GDC4-2

Maen nhw’n gêm!: Cwmnïau o Gymru yn arwain y ffordd mewn Cynhadledd ar gyfer Datblygwyr Gemau

Mae rhai o gwmnïau meddalwedd a datblygu gemau mwyaf blaenllaw Cymru wedi bod yn San Francisco yr wythnos yma yng nghynhadledd flynyddol fwya’r diwydiant gemau, diolch i gymorth Cymru Greadigol a Llywodraeth Cymru.

Y Game Developers Conference (GDC) yw cynhadledd flynyddol fwya’r diwydiant gemau fideo proffesiynol yn y byd a’r pinacl ar gyfer arddangos y gorau yn y diwydiant. Yn 2019, denodd rhagor na 29,000 o aelodau’r diwydiant gemau ac mae’n ddyddiad pwysig ar ddyddiadur unrhyw aelod o’r proffesiwn sydd am ennyn sylw, cefnogaeth a hygrydedd i’w waith.

Yng Nghymru, mae technoleg gemau’n faes sy’n tyfu ac yn sail ar gyfer datblygu cynnyrch newydd. Diolch i rwydweithiau cryf y diwydiant ac ysbryd gydweithredol, gall busnesau gemau Cymru fanteisio ar gronfa o dalent gafodd ei hyfforddi yn ein prifysgolion, o ddylunwyr ac artistiaid 3D i raglenwyr a pheirianwyr sain.

Mae datblygwyr gemau o bob cwr o’r wlad yn cynhyrchu campweithiau rhyngweithiol, gyda’r de-ddwyrain a’r Gogledd-ddwyrain yn arbennig o ffrwythlon. O’r ardaloedd hynny, dechreuodd brandiau fel Wales Interactive a Tiny Rebel Games ar eu taith i sgriniau ledled y byd. Yng Ngorllewin Cymru, mae Goldborough Studios yn cynhyrchu gemau dan cymeriad o safon uchel. Ar hyn o bryd mae'r stiwdio'n gweithio ar Yami ei gêm PC/Console gyntaf.

Amcangyfrifir bod diwydiant gemau’r DU yn werth £7bn yn 2020 – cynnydd o 29.9% ers 2019. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo’n llwyr i helpu cwmnïau o Gymru i dyfu ac i werthu drwy’r byd, yn ogystal ag i gefnogi cyfleoedd mewnfuddsoddi.

Mae stondin wedi bod gan Gymru yn y Gynhadledd ers 2017 gan roi cyfle gwych i hyrwyddo cwmnïau gemau Cymru i gynulleidfa fyd-eang. Yn y GDC yn 2019, cofnodwyd cytundebau gwerth £2.6m gan gwmnïau o Gymru.

Roedd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, hefyd yn GDC wythnos yma, gyda charfan gref o 18 o gwmnïau gemau mwyaf blaenllaw Cymru, fel rhan o Daith Fasnach o dan arweiniad y Llywodraeth i orllewin yr Unol Daleithiau.

Cyn troi am San Francisco, ymwelodd y Gweinidog ag un o gwmnïau’r daith, sef Wales Interactive, yn eu cartref yn Tec Marina, Penarth.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

“Yng Nghymru, rydyn ni o ddifrif am ein gemau a thechnoleg gemau. Rydyn ni’n cefnogi cymuned lewyrchus o fusnesau arloesol sy’n gwneud y gorau o’r talent lleol i sicrhau llwyddiant rhyngwladol.

“Mae’n rhan bwysig o’n diwydiannau creadigol ac yn cynnig swyddi bras a chynaliadwy. Dyna pam ein bod yn rhoi’r gefnogaeth i ddatblygwyr gemau sydd ei hangen arnynt i droi ffrwyth eu hawen yn realiti ac i gynyddu eu potensial mewn sector sy’n newid yn gyflym. Mae hynny’n cynnwys sicrhau bod y sector yn cael y bobl dalentog a galluog sydd ei angen arno i dyfu a ffynnu.

“Gyda phobl o bob rhan o’r byd yn bresennol, roedd y digwyddiad yn gyfle heb ei ail i fusnesau o Gymru hyrwyddo’u hunain a chyda Cymru Greadigol, i ddangos i fuddsoddwyr yr hyn sydd gan Gymru i’w gynnig.”

Wales Interactive yw’r cyhoeddwr ffilmiau rhyngweithiol mwyaf ond un yn y byd. Dywedodd Richard Pring, Sylfaenydd a Chyfarwyddwr Wales Interactive:

“Byth ers i ni fynd ar y trip cyntaf saith mlynedd yn ôl, mae taith fasnach Llywodraeth Cymru i’r GDC wedi bod yn ddyddiad pwysig ar ein calendr. Yn yr amser hwnnw, mae’r Gynhadledd wedi creu cannoedd o gyfleoedd busnes a rhwydweithio i ni a chyfleoedd hefyd i ddangos gemau a thalentau gorau Cymru ar lwyfan y byd flwyddyn ar ôl blwyddyn!”

Cargo ship-4

Datgelu Porthladdoedd Rhydd newydd Cymru

  • Dau Borthladd Rhydd ar fin cael eu sefydlu yng Nghymru – Y Porthladd Rhydd Celtaidd yn Aberdaugleddau a Phort Talbot, a Phorthladd Rhydd Ynys Môn yn y Gogledd.
  • Amcan y ddau borthladd rhydd fydd denu £4.9m o fuddsoddi cyhoeddus a phreifat, gyda’r potensial i greu rhyw 20,000 o swyddi erbyn 2030.
  • Bydd y Porthladdoedd Rhydd yn ategu buddsoddiad a pholisïau Llywodraeth Cymru i greu economïau lleol cryfach, tecach a gwyrddach.
WG Wales EU Europe Stars Glowing Agile Cymru

Cyllid newydd i gefnogi cysylltiadau busnes, economaidd ac ymchwil Cymru â rhanbarthau'r UE

Heddiw, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gyllid newydd er mwyn helpu i gynnal a chryfhau cysylltiadau busnes, economaidd ac ymchwil Cymru gyda rhanbarthau Ewropeaidd, a hynny yn dilyn i’r DU adael yr UE.

MECON at ASC Blackwood March 2023 2

Gweinidog yr Economi yn cyhoeddi buddsoddiad sylweddol i gefnogi allforion Cymru.

Wrth annerch cynhadledd flynyddol "Archwilio Allforio Cymru", bydd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, yn cyhoeddi raglen cymorth allforio lawn Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023/24 a buddsoddiad o £4 miliwn i'w darparu.

Welsh Government

Gweinidog yn ymweld â Chanolfan Gymorth 2 Sisters

          Mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt wedi ymweld â’r Ganolfan Cymorth Cyflogaeth yn Llangefni, sydd wedi ei sefydlu i helpu a chynghori pobl sydd wedi cael eu heffeithio gan y cyhoeddiad am 2 Sisters.

Cynllun Sgiliau Sero Net

Cynllun newydd i ddarparu’r sgiliau sydd eu hangen ar blant a gweithwyr heddiw i weithio yn swyddi ‘sero net’ y dyfodol

  • Bydd cynllun sgiliau sero net newydd yn amlinellu gweledigaeth o'r rôl y bydd sgiliau yn ei chwarae wrth symud Cymru oddi wrth economi tanwydd ffosil y gorffennol i ddyfodol carbon isel newydd, fel rhan o broses bontio teg.
  • Bydd swyddi sero net yn dod yn gonglfaen diwydiannau newydd y dyfodol, sydd siŵr o fod ddim yn bodoli eto.
  • Gweinidog yr Economi yn lansio cynllun newydd i sicrhau y bydd gan blant a gweithwyr heddiw y sgiliau sydd eu hangen arnynt i weithio yn swyddi newydd economi sero net y dyfodol.