English icon English

Newyddion

Canfuwyd 223 eitem, yn dangos tudalen 17 o 19

Welsh Government

Gweinidog yr Economi Vaughan Gething yn llongyfarch cwmni meddalwedd newydd ar ehangu’n gyflym gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru

Mae Gweinidog yr Economi Vaughan Gething wedi llongyfarch y cwmni meddalwedd newydd Aforza ar sicrhau buddsoddiad ariannol gwerth $22 miliwn a fydd yn arwain at ddyblu nifer ei weithwyr, sefydlu pencadlys newydd yn yr Unol Daleithiau a sbarduno arloesedd sylweddol o ran cynnyrch a fydd o fudd i fusnesau nwyddau traul o bob lliw a llun.

Welsh Government

Canolfan profi rheilffyrdd newydd o'r safon uchaf yn cael y golau gwyrdd

Mae cynghorwyr lleol wedi rhoi sêl bendith i gyfleuster profi rheilffyrdd newydd o'r safon uchaf ar hen safle cloddio glo brig ym mhen cymoedd Dulais ac Abertawe.

Welsh Government

Llywodraeth Cymru yn helpu i ddiogelu 70 o swyddi yn y safle cynhyrchu gwellt papur mwyaf yn Ewrop

Mae Cronfa Cadernid Economaidd (ERF) unigryw Llywodraeth Cymru wedi helpu i ddiogelu 70 o swyddi pwysig yn erbyn effeithiau economaidd y coronafeirws yn y safle cynhyrchu gwellt papur mwyaf yn Ewrop - Transcend Packaging yng Nghaerffili.

welsh flag-3

Sector ymchwil hynod effeithlon Cymru yn “rhagori ar ei faint” – adroddiad newydd

Mae sefydliadau ymchwil Cymru yn llwyddo i gael canlyniadau llawer gwell na’r disgwyl yn ôl eu maint, yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd heddiw (Dydd Llun, Awst 2il)

mhorwood Covid 19 Oxford-Astrazeneca Vaccine 040121 31

Mae brechu yn achub bywydau: pecyn cymorth newydd i helpu cyflogwyr i annog eu staff i gael brechlyn Covid-19

Mae Llywodraeth Cymru yn annog cyflogwyr i wneud popeth o fewn eu gallu i helpu eu gweithlu i gael eu brechu.

photo-1601897690942-bcacbad33e55-2

Rhaglen newydd i helpu mwy o gwmnïau o Gymru i allforio'n fyd-eang

Mae rhaglen newydd i helpu cwmnïau o Gymru nad ydynt erioed wedi allforio o'r blaen i werthu eu cynnyrch mewn marchnadoedd rhyngwladol newydd yn cael ei lansio gan Weinidog yr Economi, Vaughan Gething.

Cargo ship-2

"Rhaid i Weinidogion y DU barchu datganoli" - Llywodraethau Cymru a’r Alban yn galw am ariannu teg

Pe bai Llywodraeth y DU yn sefydlu porthladdoedd rhydd yn yr Alban a Chymru heb gytundeb y llywodraethau datganoledig, byddai’n tanseilio datganoli, meddai Gweinidogion Cymru a’r Alban.

Welsh Government

Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, ar ystadegau diweddaraf y farchnad lafur

Wrth ymateb i ystadegau’r farchnad lafur a gyhoeddwyd heddiw, dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi:

WG42435 Addo Adverts Bi-2

Mwynhewch y gwyliau a diogelu Cymru yr haf hwn yw cyngor Gweinidog yr Economi

Wrth i wyliau'r haf ddechrau, bydd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, heddiw yn ymweld â Llyn Llys y Frân Dŵr Cymru, yn Sir Benfro, i agor yn swyddogol ei atyniad ymwelwyr a'i gyfleusterau hamdden sydd newydd gael eu hailddatblygu.

Boulders-2

Buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru yn galluogi canolfan ddringo i anelu’n uwch

Mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething,  wedi ymweld â Chanolfan Ddringo Boulders yng Nghaerdydd i weld sut mae'r ganolfan wedi defnyddio Cyllid Cadernid Economaidd Llywodraeth Cymru i ddod o hyd i ffyrdd newydd o weithredu - a chadw ymwelwyr yn ddiogel.

Welsh Government

NODYN I’R DYDDIADUR - **Nid ar gyfer ei gyhoeddi, darlledu nac ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol**

Ddydd Llun, 12 Gorffennaf, bydd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, yn ymweld â Chanolfan Ddringo Boulders, Caerdydd i weld sut mae cyllid o Gronfa Cadernid Economaidd 3 Llywodraeth Cymru wedi helpu'r busnes i addasu a datblygu.  Mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod £2.5 biliwn ar gael i gefnogi busnesau ledled Cymru yn ystod y pandemig, gan helpu i ddiogelu dros 160,000 o swyddi a allai fel arall fod wedi'u colli.

Vaughan Gething  (L)

Bydd technoleg lled-ddargludo cyfansawdd yn greiddiol i’r chwyldro diwydiannol nesaf yn ôl Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi

Yn ôl Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi, bydd y sector technoleg lled-ddargludo cyfansawdd yn greiddiol i’r chwyldro diwydiannol nesaf, ac yn hanfodol bwysig i economi Cymru.