Newyddion
Canfuwyd 209 eitem, yn dangos tudalen 2 o 18

Rhoi'r cyfle i bob plentyn allu siarad Cymraeg yn hyderus
Mae'r Senedd wedi pasio deddfwriaeth nodedig i roi cyfle i bob plentyn ledled Cymru allu siarad Cymraeg yn hyderus, waeth beth fo'u cefndir neu iaith yr ysgol y maent yn ei mynychu.

'Pob Lwc' wrth i'r tymor arholiadau ddechrau yng Nghymru
Mae'r tymor arholiadau wedi dechrau a nawr yw'r amser i ddweud "Pob Lwc" wrth bawb sy'n dechrau eu harholiadau a'u hasesiadau.

Mae ymyrraeth gynnar yn atal digartrefedd ac yn helpu i gadw pobl ifanc mewn addysg
Mae gwasanaeth ieuenctid Cyngor Caerffili yn gweithio gydag ysgolion a sefydliadau eraill i gefnogi pobl ifanc 11-18 oed sydd mewn perygl o beidio â bod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant neu o fynd yn ddigartref.

£5m i gefnogi myfyrwyr ag anghenion dysgu ychwanegol mewn Addysg Bellach
Bydd cyllid newydd yn trawsnewid cyfleusterau addysgol i fyfyrwyr ag anghenion dysgu ychwanegol mewn Colegau Addysg Bellach ledled Cymru.

Ydych chi'n gymwys i gael help gyda chostau addysg bellach?
Mae'r ffenest gais ar gyfer Lwfans Cynhaliaeth Addysg 2025-26 nawr ar agor.

Cynllun grant yn helpu i gynyddu nifer yr athrawon sy'n siarad Cymraeg
Mae'r grant datblygu capasiti'r gweithlu addysg cyfrwng Cymraeg yn rhoi cyfle i ysgolion uwchradd ganfod ffyrdd arloesol o fynd i'r afael â phroblemau staffio tymor byr, gan gynyddu nifer yr athrawon a chynorthwywyr addysgu sy'n siarad Cymraeg.

Cymorth lles coleg yn allweddol i brofiad addysg y dysgwyr
Mae dysgwyr ledled Cymru yn elwa ar fwy o gymorth lles ac iechyd meddwl diolch i £4 miliwn o gyllid i golegau. Mae cyllid wedi cael ei ddefnyddio yn y gorffennol i greu canolfannau lles neu wasanaethau cwnsela.

Cyllid ychwanegol i wella cyfleusterau ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol
Ystafelloedd dosbarth ac offer newydd a gwell ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY).

Dathlu diwrnod Pi fel rhan o gynlluniau newydd arloesol
Mae disgyblion Ysgol Uwchradd Caergybi yn dathlu Diwrnod Pi, ddydd Gwener 14 Mawrth, drwy addurno symbol Pi enfawr ar y maes chwarae a chystadlu yn y gystadleuaeth cof Pi flynyddol (llwyddodd enillydd y llynedd i adrodd Pi i 120 digid o'r cof).

Cynllun gwaith ieuenctid yn hybu presenoldeb mewn ysgolion ym Mlaenau Gwent
Mae partneriaeth rhwng darpariaeth gwaith ieuenctid ac ysgolion uwchradd ym Mlaenau Gwent yn cymryd camau cadarnhaol i wella presenoldeb disgyblion yn yr ysgol.

£19 miliwn i gefnogi'r sector Addysg Uwch
Bydd prifysgolion Cymru yn cael eu cefnogi gan fuddsoddiad o £18.5 miliwn i'w helpu i fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu'r sector addysg uwch, a £500,000 arall i gefnogi recriwtio a hyrwyddo rhyngwladol.

Cynllun i hybu niferoedd athrawon sy'n siarad Cymraeg nawr ar agor
Nod rhaglen 'Cynllun Pontio', sydd nawr ar agor ar gyfer ceisiadau yw denu athrawon sy'n siarad Cymraeg i ysgolion uwchradd yng Nghymru.