Newyddion
Canfuwyd 191 eitem, yn dangos tudalen 6 o 16

Ceisiadau ar agor i athrawon sy’n siarad Cymraeg sydd eisiau dychwelyd i Gymru
Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei bod nawr yn recriwtio ar gyfer ei ‘Chynllun Pontio' poblogaidd - gyda'r nod o ddenu athrawon Cymraeg eu hiaith i ysgolion uwchradd yng Nghymru.

Y Gwasanaeth Llesiant Staff estynedig yn lansio’n swyddogol
Bydd y Gwasanaeth Llesiant Staff estynedig yn lansio’n swyddogol heddiw (dydd Llun 30 Ionawr). Mae Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, wedi cyhoeddi £600,000 o gyllid ychwanegol i wella cyrhaeddiad a dyfnder y rhaglen.

Sut mae ysgol fro yng Nghasnewydd yn mynd i'r afael ag anghydraddoldeb
Mae'r Gweinidog Addysg, Jeremy Miles wedi cyfarfod â staff, disgyblion a rhieni yn Ysgol Gynradd Maendy yng Nghasnewydd, er mwyn gweld sut mae ysgol fro yn helpu i sicrhau bod pob dysgwr yn cyflawni ei botensial.

Llywodraeth Cymru a'r NSPCC yn paratoi cynllun i atal aflonyddu rhywiol mewn ysgolion
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag NSPCC Cymru a phobl ifanc i ddeall sut i atal ymddygiad niweidiol.

RAAC: pob ysgol yng Nghymru ar agor i bob disgybl
Mae buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn ei hadeiladau addysg wedi talu ar ei ganfed, heb unrhyw achosion pellach o RAAC wedi'u canfod yng Nghymru ac mae pob ysgol bellach ar agor i bob disgybl, meddai'r Gweinidog Addysg, Jeremy Miles, heddiw.

Cwricwlwm Dinasyddion: Grymuso dysgwyr sy'n oedolion yng Nghymru
Ar ymweliad i Oasis yng Nghaerdydd, cafodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, gyfle i weld sut roedd prosiect sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru yn helpu athrawon gwirfoddol i addysgu Saesneg i ffoaduriaid a cheiswyr lloches.

Gweinidog yn ymrwymo i adnewyddu’r ffocws cenedlaethol ar ddarllen, mathemateg a gwyddoniaeth
Mae cynlluniau ar waith i ailgydio yn y cynnydd a wnaed cyn y pandemig mewn darllen, mathemateg a gwyddoniaeth, meddai’r Gweinidog Addysg, Jeremy Miles wrth i ganlyniadau PISA gael eu cyhoeddi.

15 miliwn o brydau ysgol am ddim wedi’u gweini fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio
Mae 15 miliwn o brydau ysgol am ddim wedi cael eu gweini mewn ysgolion cynradd ledled Cymru fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.

Cynlluniau newydd i gymell gwelliant mewn mathemateg a llythrennedd
Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, heddiw wedi cyhoeddi manylion cynlluniau i wella llythrennedd a rhifedd, fel rhan o ymdrechion ehangach i ddelio ag effeithiau pandemig Covid mewn ysgolion.

Mae Llywodraeth Cymru am gael eich barn ar galendr yr ysgol
Bydd ymgynghoriad yn dechrau ar 21 Tachwedd ar newid calendr yr ysgol, fel bod gwyliau'n cael eu rhannu'n fwy cyson, gan gynnwys pythefnos o wyliau hanner tymor yn yr hydref.

Ymyrraeth gynnar yn allweddol i fynd i'r afael â phresenoldeb
Heddiw, mae'r Gweinidog Addysg, Jeremy Miles, wedi cyhoeddi canllawiau newydd i helpu ysgolion i weithio gyda theuluoedd ac asiantaethau perthnasol i sicrhau bod dysgwyr yn mynychu'r ysgol.

Y Grant Hanfodion Ysgol yn helpu dros 100,000 o blant yng Nghymru
Gall teuluoedd ar incwm isel gael hyd at £200 i helpu gyda hanfodion fel gwisg ysgol, esgidiau, bagiau, deunydd ysgrifennu, dillad chwaraeon ac offer.