Newyddion
Canfuwyd 175 eitem, yn dangos tudalen 14 o 15
Cyhoeddi cefnogaeth ychwanegol i iechyd meddwl ieuenctid
Heddiw, mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Jeremy Miles wedi cyhoeddi cyllid ychwanegol i helpu mwy o bobl ifanc i gael cefnogaeth ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl a lles emosiynol drwy ddulliau gwaith ieuenctid.
Dechrau newydd i dymor newydd gyda buddsoddiad i helpu i wella ansawdd yr aer mewn ysgolion, colegau a phrifysgolion
- Synwyryddion carbon deuocsid i fonitro ansawdd yr aer mewn ystafelloedd dosbarth a darlithfeydd
- Peiriannau diheintio oson newydd er mwyn cyflymu’r broses lanhau os oes clystyrau o haint Covid-19 yn cael eu canfod
- Cefnogaeth o £5.9m gan Lywodraeth Cymru, fel rhan o’r mesurau i leihau lledaeniad Covid-19
"Cymerwch y camau sydd eu hangen i gadw dysgwyr yn ddiogel ac yn dysgu"
Gydag ysgolion, colegau a phrifysgolion yn ailagor yn dilyn gwyliau'r haf, gofynnir i rieni, gwarcheidwaid a dysgwyr yng Nghymru gymryd rhai camau i helpu i gadw risg Covid i lawr a dysgwyr yn dysgu.
Cyfle i ddweud eich dweud am drethi lleol ar ail gartrefi a llety gwyliau
Mae pobl yn cael eu hannog i fynegi barn am newidiadau posibl i drethi lleol y gallai awdurdodau lleol eu defnyddio i ddelio ag effaith niferoedd mawr o ail gartrefi a llety gwyliau masnachol mewn rhannau o Gymru.
Bydd cymorth yn helpu athrawon newydd gymhwyso i gael rolau newydd
Diolch i £1.7m yn ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, bydd athrawon newydd yng Nghymru yr amharwyd ar eu hyfforddiant oherwydd y pandemig yn cael cyfnod o gyflogaeth i'w helpu i gael rolau newydd.
“Llongyfarchiadau mawr i ddysgwyr TGAU a galwedigaethol ledled Cymru" – y Gweinidog Addysg
Mae Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, wedi llongyfarch dysgwyr yng Nghymru sydd wedi derbyn eu canlyniadau TGAU a chymwysterau galwedigaethol heddiw.
Gweinidog yn dathlu ‘cyflawniad nodedig’ dosbarth 2021
Mae'r Gweinidog Addysg, Jeremy Miles, wedi canmol cyflawniadau myfyrwyr ledled Cymru wrth i ganlyniadau Safon Uwch, UG, Cymwysterau Galwedigaethol a Thystysgrifau Her Sgiliau 2021 gael eu cyhoeddi.
Sector ymchwil hynod effeithlon Cymru yn “rhagori ar ei faint” – adroddiad newydd
Mae sefydliadau ymchwil Cymru yn llwyddo i gael canlyniadau llawer gwell na’r disgwyl yn ôl eu maint, yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd heddiw (Dydd Llun, Awst 2il)
Cyhoeddi Prif Arolygydd newydd Estyn
Heddiw, mae Prif Weinidog Cymru wedi cyhoeddi bod Ei Mawrhydi y Frenhines wedi derbyn yr argymhelliad i wneud Owen Evans yn Brif Arolygydd Addysg a Hyfforddiant newydd Cymru.
“Mae plant angen help o hyd er ei bod yn wyliau haf”
Bydd cymorth Llywodraeth Cymru yn helpu miloedd o blant ledled Cymru i gadw’n heini, i ymwneud ag eraill ac i gael digon i’w wneud yr haf hwn.
Llywodraeth Cymru yn nodi trefniadau pum mlynedd nesaf Cymraeg 2050
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei Rhaglen Waith newydd ar gyfer Cymraeg 2050, y strategaeth genedlaethol i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Cyhoeddi newidiadau i gadw ysgolion yn ddiogel a dysgwyr yn dysgu
Heddiw mae'r Gweinidog Addysg, Jeremy Miles, wedi ysgrifennu at bob pennaeth yng Nghymru i roi mwy o eglurder am sut gall ysgolion a cholegau barhau i weithredu'n ddiogel pan fyddant yn dychwelyd ym mis Medi.