Newyddion
Canfuwyd 177 eitem, yn dangos tudalen 6 o 15
Tair ysgol carbon sero net newydd i’w hadeiladu – a’r disgyblion yn helpu i’w dylunio
Heddiw (ddydd Gwener 24 Mawrth), cyhoeddodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, y bydd tair ysgol carbon sero net newydd yn cael eu hadeiladu, un yn y Gogledd, un yn y De-orllewin a thrydedd yn y De-ddwyrain.
Lansio cymhelliant i ddenu gweithlu addysgu mwy amrywiol
Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, wedi lansio cymhelliant swyddogol i ddenu mwy o bobl o gefndiroedd Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol i addysgu.
£60 miliwn i wneud ysgolion a cholegau ledled Cymru yn fwy cynaliadwy
Bydd ysgolion a cholegau ledled Cymru yn elwa ar gyllid o £60 miliwn i sicrhau bod adeiladau’n fwy effeithlon o ran ynni. Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, wedi cyhoeddi cyllid o £50 miliwn i ysgolion a £10 miliwn i golegau addysg bellach.
Ymestyn prydau ysgol am ddim ar gyfer gwyliau Ebrill a Mai
Heddiw (Mawrth 9), cadarnhaodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, y bydd prydau ysgol am ddim yn ystod y gwyliau yn parhau i fod ar gael i blant o deuluoedd incwm is dros y Pasg a'r Sulgwyn.
£2.1m i bobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol mewn addysg bellach
Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, wedi cyhoeddi cyllid newydd dros dair blynedd i wella profiadau myfyrwyr addysg bellach ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY).
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi
Yn ystod ei ymweliad â Dulyn, bu Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi gyda disgyblion mewn ysgol Wyddeleg, Gaelscoil Thaobh na Coille.
Rhaglen yn cynnig llwybr newydd i addysgu mewn ysgol uwchradd yng Nghymru
Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cyhoeddi y bydd y Cynllun Pontio, sef rhaglen sy’n hyfforddi athrawon cynradd i fod yn athrawon uwchradd, yn parhau am y flwyddyn academaidd nesaf.
Hwb o £8m i ddysgu digidol ym maes addysg bellach
Mae Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, wedi cyhoeddi buddsoddiad ychwanegol o £8m i gefnogi dysgu digidol mewn colegau addysg bellach dros y tair blynedd nesaf – gyda chyfanswm o dros £30m wedi’i fuddsoddi mewn digidol ers 2019.
Dathlu Dydd Miwsig Cymru: £100,000 ar gyfer cerddoriaeth Gymraeg ar lawr gwlad
Wrth i gigs a digwyddiadau gael eu cynnal ar draws y wlad ar wythfed Dydd Miwsig blynyddol Cymru, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyllid ychwanegol fel bod pobl yn mwynhau hyd yn oed mwy o gerddoriaeth.
Mwy o gyllid i sefydliadau sy’n helpu pawb i ddefnyddio mwy o Gymraeg
Mae mentrau iaith a’r papurau bro ymysg y sefydliadau sy’n rhannu bron i £260,000 i helpu pawb i ddefnyddio mwy o Gymraeg.
Ymestyn y Gwasanaeth Llesiant Ysgolion fel rhan o becyn cyllid £600,000
Mae Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, wedi cyhoeddi bod dros £600,000 wedi’i ddyfarnu i wasanaeth sy'n darparu cymorth iechyd meddwl a llesiant i athrawon a staff ym maes addysg.