Newyddion
Canfuwyd 358 eitem, yn dangos tudalen 3 o 30
Cynlluniau ar y gweill i sefydlu canolfan logisteg ddigidol ym Mhont-y-pŵl
Mae cyllid Llywodraeth Cymru yn helpu cwmni logisteg arobryn i sefydlu canolfan logisteg fodern, sy'n seiliedig ar dechnoleg, gan gefnogi busnesau Cymru a chreu swyddi newydd medrus iawn.
Ymateb Llywodraeth Cymru i Ystadegau'r Farchnad Lafur diweddaraf - Ionawr 2026
Dywed Llywodraeth Cymru:
"Rhaid inni sefyll gyda'n cyd-wledydd a thros y gwerthoedd sy'n annwyl inni" - Prif Weinidog Cymru
Mae Prif Weinidog Cymru wedi pwyso ar Brif Weinidog y DU i sefyll yn gadarn yn wyneb bygythiadau gan Donald Trump i gynyddu tariffau oni bai bod y DU yn cydymffurfio â dymuniad Arlywydd yr Unol Daleithiau i brynu'r Ynys Las.
Hyrwyddo'r sector gweithgynhyrchu ar ymweliad â chyflogwr mawr yng Nghanolbarth Cymru
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans, wedi hyrwyddo cryfder ac arloesedd gweithgynhyrchu Cymru ac wedi pwysleisio unwaith eto gefnogaeth ddiwyro Llywodraeth Cymru i'r sector hanfodol hwn ar ymweliad ag un o'r busnesau preifat mwyaf yn rhanbarth Canolbarth Cymru.
Croeso i gytundebau gwynt ar y môr sy’n dod â miloedd o swyddi i Gymru – Prif Weinidog
Mae dau brosiect gwynt ar y môr yng Nghymru wedi sicrhau cytundebau yn y caffaeliad diweddaraf gan Lywodraeth y DU, gan nodi cam sylweddol ymlaen ar gyfer uchelgeisiau ynni adnewyddadwy Cymru a dod â miloedd o swyddi newydd.
Yr Academi Gemau yn rhoi cymorth i helpu busnesau newydd o Gymru i gyrraedd marchnadoedd y byd
Mae rhaglen gemau newydd wedi'i chynllunio i gyflymu twf cwmnïau gemau yng Nghymru wedi cael ei lansio. Mae wedi cael ei hariannu'n llawn gan Cymru Greadigol ac yn cael ei chyflwyno gan ganolfan dechnoleg Tramshed Tech – cwmni sydd wedi ennill gwobrau am eu gwaith.
Cymorth gwerth £2.1m i helpu busnesau Cymru i fabwysiadu AI
Bydd £2.1m o gyllid a ddarperir gan Lywodraeth Cymru yn golygu bod cymorth pwrpasol ar gael i helpu busnesau bach a chanolig ledled Cymru i fabwysiadu deallusrwydd artiffisial (AI) a manteisio i'r eithaf ar ei botensial.
Hwb gwerth £2 miliwn i amddiffyn busnesau rhag y tywydd
Mae £2 miliwn ychwanegol wedi cael ei ddyrannu i helpu busnesau twristiaeth a lletygarwch Cymru i roi mesurau ar waith i wrthsefyll tywydd garw.
Ysgolion ac adeiladau cyhoeddus ledled Cymru i leihau biliau gyda cyllid Great British Energy
Mae ysgolion ac adeiladau cyhoeddus ledled Cymru yn derbyn paneli solar fel rhan o gyllid o £9m i leihau biliau ynni a datgarboneiddio adeiladau cyhoeddus.
Biliynau wedi'i fuddsoddi yn y Gogledd llynedd
Llifodd biliynau o bunnau ar gyfer ei fuddsoddi yn y Gogledd yn y flwyddyn ddiwethaf, gan gynnal miloedd o swyddi o ansawdd uchel.
Buddsoddiadau gwerth dros £16 biliwn a miloedd o swyddi yn dod i Gymru
Disgwylir i dros ddeng mil o swyddi gael eu creu yng Nghymru ar ôl i'r Prif Weinidog gyhoeddi buddsoddiad newydd gwerth £1.4 biliwn heddiw cyn Uwchgynhadledd Buddsoddi Cymru.
Cwmni o'r Swistir yn buddsoddi mewn ehangu gweithrediadau ar safle yng Nghasnewydd
Mae cwmni o'r Swistir ar fin ehangu ei weithrediadau gweithgynhyrchu yng Nghasnewydd fel rhan o gytundeb gyda chwmni technoleg blaenllaw yn y sector awyrofod ac amddiffyn.