Newyddion
Canfuwyd 4055 eitem, yn dangos tudalen 106 o 338
Dros £36m i roi arian yn ôl ym mhocedi pobl
Darperir cyllid dros gyfnod o dair blynedd i wasanaethau cynghori er mwyn helpu pobl gyda’u problemau lles cymdeithasol, ochr yn ochr â hyfforddiant newydd i weithwyr rheng flaen i sicrhau bod mwy o bobl yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i ddelio â chostau byw.
Cynnydd o ran y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn Sioe Frenhinol Cymru
Bydd rheoli safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yn cael eu cynnwys yn y Taliad Sylfaenol Cyffredinol ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, yn ôl Ysgrifennydd y Cabinet, Huw Irranca-Davies, heddiw.
Ysgrifennydd y Cabinet i gynnal pumed Uwchgynhadledd Afonydd Cymru yn Sioe Frenhinol Cymru
"Gyda'n gilydd, gallwn adeiladu dyfodol cynaliadwy i Gymru, lle mae ein hafonydd yn parhau i'n maethu a'n hysbrydoli ni i gyd."
"Mae gen i lais nawr hefyd" - Pobl ifanc yn dathlu llwyddiant wrth i raglen gyflogaeth gynnig mwy na gwaith iddyn nhw
Gwell siawns o gael swyddi, mwy o foddhad â bywyd a help i gael gafael ar gymorth iechyd meddwl yw rhai o'r manteision y mae dysgwyr ifanc wedi'u profi ers ymuno â Twf Swyddi Cymru+.
Diwydiant bwyd a diod Cymru yn tyfu 10%
Mae ystadegau a gyhoeddwyd heddiw yn dangos bod y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru wedi tyfu 10% y llynedd.
Gweinidog yn dathlu ac yn rhoi sicrwydd i'r sector amaeth wrth i'r Sioe Frenhinol ddechrau
Wrth i'r Sioe Frenhinol ddychwelyd am y 120fed tro, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies, wedi amlinellu ei weledigaeth ar gyfer creu sector ffermio cynaliadwy a gwydn, ac wedi tawelu meddwl ffermwyr a thirfeddianwyr ynghylch cymorth yn y dyfodol.
Annog rhieni i gofrestru ar gyfer y Cynnig Gofal Plant cyn tymor yr hydref
Mae perchennog busnes bach wedi annog rhieni i gofrestru ar gyfer Cynnig Gofal Plant Llywodraeth Cymru cyn i dymor yr hydref ddechrau.
Ken Skates yn croesawu addewid rheilffyrdd Llywodraeth y DU
Mae Ysgrifennydd Cabinet Gogledd Cymru a Thrafnidiaeth, Ken Skates wedi croesawu cynlluniau gan Lywodraeth y DU i ddechrau'r broses o ddod â gwasanaethau rheilffyrdd i berchnogaeth gyhoeddus ym Mhrydain Fawr
'Croeso' i bawb! - 'Croeso!' cynnes Cymreig
Mae Croeso Cymru wedi datgan mai 'Croeso!' fydd thema'r flwyddyn ar gyfer 2025.
Ysgol Uwchradd Whitmore yn cadw'n ddiogel ar-lein yr haf hwn
Ar ymweliad ag Ysgol Uwchradd Whitmore yn y Barri mewn gwers ar ddiogelwch ar-lein, cafodd Lynne Neagle, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, gyfle i glywed gan ddisgyblion am eu pryderon am ddiogelwch ar-lein a'r cymorth sydd ar gael i helpu.
Ymateb Llywodraeth Cymru i ddata perfformiad diweddaraf GIG Cymru: Mai a Mehefin 2024
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb i ddata perfformiad diweddaraf y GIG a gyhoeddwyd heddiw. Dywedodd llefarydd:
Ysgrifennydd y Cabinet yn cadarnhau'r gefnogaeth fydd ar gael i ffermwyr yn 2025
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies, wedi cadarnhau heddiw (dydd Mercher, 17 Gorffennaf) y cynlluniau fydd ar gael i gefnogi ffermwyr a pherchenogion tir cyn cyflwyno'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) yn 2026