Newyddion

Canfuwyd 3966 eitem, yn dangos tudalen 104 o 331

Sports4All-3

Prosiect chwaraeon yn helpu rhagor o fenywod i fod yn egnïol

Mae Sports4All yn cynnig sesiynau gweithgareddau rhad ac am ddim i fenywod yng Nghaerdydd, ac yn annog menywod a merched Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol i wella'u lles drwy gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol.

Welsh Government

Cymorth addysg i gefnogi plant a phobl ifanc sy'n Sipsiwn, Roma a Theithwyr

Mis Hanes Sipsiwn, Roma a Theithwyr yw mis Mehefin ac mae'n gyfle i ddathlu a dysgu mwy am ddiwylliant a threftadaeth gyfoethog cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr yng Nghymru.

Welsh Government

Elusen iechyd meddwl yng Nghasnewydd yn elwa ar gymorth Llywodraeth Cymru

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol, Lesley Griffiths, wedi ymweld â Mind Casnewydd i weld sut mae £300,000 o gyllid gan Lywodraeth Cymru wedi galluogi'r elusen i agor man lloches newydd yn eu hadeilad ac i ddarparu eu cyfleusterau i fwy o bobl.

18-4-24-WG-EDU-107A0150 (1)-2

Rhaglen i hybu cyrhaeddiad mewn ysgolion yn parhau am ail gyfnod

Bydd cynllun peilot y Pencampwyr Cyrhaeddiad, sydd wedi ei greu i fynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol dysgwyr, yn cael ei estyn i ail gyfnod er mwyn codi safonau mewn ysgolion ymhellach.

Minibuds 3-2 cropped

Cyfres deledu addawol yn egino o Gymru

Mae cyfres i blant gan gwmni animeiddio Cymreig sy'n annog cynulleidfaoedd ifanc i ymddiddori mewn natur a'r byd o'u cwmpas wedi cael ei dewis i'w darlledu gan rai o brif ddarlledwyr y DU, gan gynnwys S4C ac ITV.

Welsh Government

Prosiect newydd yr Urdd yn helpu pobl ifanc yn India

Ar ôl cael cyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru, mae'r Urdd yn mynd ati heddiw i lansio rhaglen lle bydd pobl ifanc o Gymru yn helpu i fynd i'r afael â thrais rhywiol a thrais ar sail rhywedd yn India.

Prof Badyal and Prof Sood-2

Prif Gynghorydd Gwyddonol Cymru yn cyflwyno economi gylchol Cymru gyda Phrif Gynghorydd India

Wrth i Lywodraeth Cymru barhau i ddathlu blwyddyn Cymru yn India, yr wythnos hon mae'r Athro Jas Pal Badyal FRS, Prif Gynghorydd Gwyddonol Cymru, wedi cwrdd â Phrif Gynghorydd Gwyddonol India, yr Athro Ajay K Sood FRS, i drafod economi gylchol flaenllaw a sectorau technoleg feddygol a thechnoleg amaeth Cymru.

Welsh Government

Ysgrifennydd y Cabinet 'allan yn y maes' i ddysgu am reoli tir yn gynaliadwy

Mae'r Ysgrifennydd Newid Hinsawdd a Materion Gwledig Huw Irranca-Davies wedi bod 'allan yn y maes' yn dysgu am raglen flaengar Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am y dystiolaeth sy'n cefnogi polisïau cynhyrchu bwyd cynaliadwy, lliniaru'r newid yn yr hinsawdd ac atal y dirywiad mewn bioamrywiaeth.

Welsh Government

Datrysiadau meddygol yfory, a ddatblygwyd yng Nghymru heddiw

Mae cynnyrch sy'n iacháu clwyfau wedi'i wneud o secretiadau cynrhon a phrawf gwaed ar gyfer Sglerosis Ymledol - y cyntaf o'i fath yn y byd - ymhlith y datblygiadau arloesol yng Nghymru i sicrhau cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru.

Welsh Government

Dysgu am lwyddiant halen môr ar Ynys Môn

Mae Huw Irranca-Davies, Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, wedi ymweld â Halen Môn, un o gynhyrchwyr mwyaf adnabyddus Cymru, sy'n allforio i weddill y byd.

060 JJ MarketHalls

Rhaglen Trawsnewid Trefi yn helpu gyda gwaith adfywio strategol yn Aberteifi

Mae adeilad hanesyddol rhestredig Gradd II yng nghanol tref Aberteifi wedi cael ei adfer yn llwyr, ac mae'r cyfleusterau wedi cael eu hatgyweirio a'u diweddaru.

009 JJ MarketHalls

Neuadd farchnad ‘agored i niwed’ wedi'i hadnewyddu ac yn cael ei defnyddio unwaith eto

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai, Llywodraeth Leol a Chynllunio, Julie James, wedi ymweld ag adeilad rhestredig Gradd II yr Hen Farchnad yn Llandeilo.