Newyddion
Canfuwyd 3966 eitem, yn dangos tudalen 146 o 331
Hyrwyddo cefnogaeth i Wcrainiaid yng Nghymru flwyddyn ar ôl cyflwyno’r llwybr uwch-noddwr
Flwyddyn ers cyflwyno llwybr uwch-noddwr Cartrefi i Wcráin Llywodraeth Cymru, mae Jane Hutt a Mick Antoniw wedi ailddatgan ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gefnogi pobl sy'n ffoi rhag y rhyfel anghyfreithlon.
Dod i adnabod Cymru dros y Pasg
Wrth iddi gael ei thywys ar y daith swyddogol gyntaf o amgylch atyniad newydd, gwerth miliynau o bunnoedd, i ymwelwyr yn Sir Gaerfyrddin, bu Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden, yn annog pobl i ymweld â Chymru dros y Pasg.
Tair ysgol carbon sero net newydd i’w hadeiladu – a’r disgyblion yn helpu i’w dylunio
Heddiw (ddydd Gwener 24 Mawrth), cyhoeddodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, y bydd tair ysgol carbon sero net newydd yn cael eu hadeiladu, un yn y Gogledd, un yn y De-orllewin a thrydedd yn y De-ddwyrain.
Datgelu Porthladdoedd Rhydd newydd Cymru
- Dau Borthladd Rhydd ar fin cael eu sefydlu yng Nghymru – Y Porthladd Rhydd Celtaidd yn Aberdaugleddau a Phort Talbot, a Phorthladd Rhydd Ynys Môn yn y Gogledd.
- Amcan y ddau borthladd rhydd fydd denu £4.9m o fuddsoddi cyhoeddus a phreifat, gyda’r potensial i greu rhyw 20,000 o swyddi erbyn 2030.
- Bydd y Porthladdoedd Rhydd yn ategu buddsoddiad a pholisïau Llywodraeth Cymru i greu economïau lleol cryfach, tecach a gwyrddach.
Cam pwysig ymlaen i ddiogelwch tomennydd glo
Heddiw, mae Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd, wedi cyhoeddi ymateb manwl Llywodraeth Cymru i adroddiad Comisiwn y Gyfraith ar Reoleiddio Diogelwch Tomennydd Glo yng Nghymru.
Y Prif Weinidog yn cyhoeddi cronfa o £750,000 ar gyfer ymchwil i for-lynnoedd llanw
Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi cyhoeddi £750,000 ar gyfer y Gronfa Her Mor-lynnoedd Llanw.
Rhaglen diogelwch adeiladau’n gwneud i drigolion deimlo’n ‘ddiogel a saff yn eu cartrefi’
Mae datblygiadau pwysig wedi’u gwneud i’r camau y mae Llywodraeth yn eu cymryd i daclo problem diogelwch tai.
Penodi cadeirydd newydd i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cyhoeddi bod cadeirydd newydd wedi’i benodi i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.
Bydd system dribiwnlysoedd "syml, fodern a theg" yn gam sylweddol tuag at system gyfiawnder neilltuol i Gymru
Heddiw [dydd Mawrth, 21 Mawrth], bydd y Cwnsler Cyffredinol yn cadarnhau y cynhelir ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru i lywio deddfwriaeth yn y dyfodol ar gyfer sefydlu un system dribiwnlysoedd unedig i Gymru.
Bydd pwerau newydd i fynd i’r afael â llygredd aer a sŵn yn arwain at ‘ddyfodol glanach, iachach a gwyrddach’
Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd Julie James wedi dweud y bydd pwerau newydd i ymdrin â llygredd aer a sŵn yn arwain at Gymru lanach, iachach a gwyrddach.
Cadeirydd newydd ar gyfer Cyngor Celfyddydau Cymru yn cael ei chyhoeddi
Mae Gweinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden, wedi cyhoeddi heddiw fod Maggie Russell wedi cael ei phenodi yn Gadeirydd newydd Cyngor Celfyddydau Cymru.