Newyddion
Canfuwyd 3875 eitem, yn dangos tudalen 147 o 323
Bydd Pont Menai’n ailagor ar amser
Bydd gwaith i ailagor Pont Menai gyda chyfyngiad pwysau o 7.5 tunnell yn cael ei gwblhau ar amser.
Y Gweinidog yn annog pobl sy’n ei chael yn anodd talu biliau i fanteisio ar y gwasanaethau cyngor hanfodol sydd ar gael yn y Gogledd
Ddoe, ymwelodd y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans, â Chanolfan ASK yn y Rhyl, ac mae’n annog pobl yn y Gogledd i fanteisio ar y cymorth sydd ar gael iddyn nhw yn ystod yr argyfwng costau byw.
Buddsoddiad gwerth £86 miliwn i wella gwasanaethau radiotherapi ar gyfer canser yn Ne Cymru
Cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan heddiw y bydd mwy na £86 miliwn ar gael ar gyfer cyfleusterau, offer a meddalwedd newydd ym maes triniaethau canser.
Yr holl gynhwysion i helpu busnes yn y Fflint i dyfu
Mae’r Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths wedi agor cyfleuster cynhyrchu newydd yn swyddogol yn y Pudding Compartment yn y Fflint, sydd wedi elwa ar arian gan Lywodraeth Cymru.
Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan, yn ymddiheuro’n bersonol i bobl sydd wedi’u heffeithio gan arferion mabwysiadu hanesyddol
Mae Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, wedi ymddiheuro’n bersonol i’r rhai a ddioddefodd yn sgil yr arfer hanesyddol o fabwysiadu gorfodol yn y 1950au, y 1960au a’r 1970au.
Ysgol feddygaeth newydd yn y Gogledd i ddechrau hyfforddi meddygon newydd Cymru
Mae Mark Drakeford, y Prif Weinidog, wedi cyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru yn ariannu hyd at 140 o leoliadau i fyfyrwyr meddygaeth bob blwyddyn yn ysgol feddygaeth newydd y Gogledd.
Uwch-barafeddygon yn lleihau nifer y bobl sy'n mynd i'r ysbyty
Mae Uwch-ymarferwyr Parafeddygol ledled Cymru yn helpu i drin rhagor o bobl yn y gymuned ac i sicrhau na fydd pobl yn mynd i'r ysbyty yn ddiangen.
Cwmni coffi o Gymru yn sicrhau cytundeb newydd yn yr Unol Daleithiau a Chanada
Mae'r Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths wedi llongyfarch Ferrari's Coffee ym Mhen-y-bont ar ôl i'r cwmni sicrhau cytundeb newydd fydd yn gweld eu cynnyrch ar gael yn yr UDA a Chanada y flwyddyn nesaf.
Gweinidog yr Economi yn datgelu rhaglen brysur o deithiau masnach rhyngwladol ar gyfer Gwanwyn 2023
Heddiw, mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, wedi datgelu rhaglen lawn o deithiau masnach rhyngwladol Llywodraeth Cymru ar gyfer gwanwyn 2023, gan gefnogi busnesau Cymru sy'n teithio'r byd yn ystod y misoedd nesaf i ddatblygu eu hallforion.
Cymru fydd y wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno cynllun trwyddedu gorfodol cenedlaethol ar gyfer triniaethau arbennig megis tatŵio
Mae’r Prif Swyddog Meddygol, Frank Atherton, wedi cyhoeddi mai Cymru fydd y wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno cynllun trwyddedu gorfodol cenedlaethol ar gyfer artistiaid tatŵio a’r rheini sy’n gweithio mewn busnesau tyllu’r corff, lliwio’r croen yn lled-barhaol, aciwbigo, ac electrolysis.
Cymru'n anelu at gwrdd â 100% o'i hanghenion trydan o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2035
Heddiw (dydd Mawrth, 24 Ionawr, mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, wedi cyhoeddi ymgynghoriad ar dargedau 'uchelgeisiol ond cyflawnadwy' fel y gall Cymru gwrdd â 100% o'i hanghenion trydan o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2035.
Ymestyn y Gwasanaeth Llesiant Ysgolion fel rhan o becyn cyllid £600,000
Mae Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, wedi cyhoeddi bod dros £600,000 wedi’i ddyfarnu i wasanaeth sy'n darparu cymorth iechyd meddwl a llesiant i athrawon a staff ym maes addysg.