Newyddion
Canfuwyd 392 eitem, yn dangos tudalen 3 o 33
Dosbarthiadau coginio yn helpu i fynd i'r afael â chamddefnyddio alcohol
Mae pobl â phroblemau alcohol hirdymor yn dysgu sut i baratoi prydau o fwyd gyda'i gilydd, a hynny yn sgil prosiect newydd sy'n mynd i'r afael â maeth gwael ac ynysigrwydd cymdeithasol, sy'n aml yn gysylltiedig â chamddefnyddio alcohol.
Gwelliannau i system gwynion GIG Cymru
Bydd y broses gwyno y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru yn cael ei chryfhau'n sylweddol ar ôl i'r Senedd gymeradwyo rheoliadau newydd heddiw (dydd Mawrth 14 Hydref).
Llywodraeth Cymru yn parhau â chymorth hanfodol i deuluoedd mewn profedigaeth
Mae cymorth i deuluoedd sydd wedi wynebu'r profiad torcalonnus o golli babi yn cael ei ymestyn.
Paratoi Cymru ar gyfer y gaeaf
Heddiw, mae Llywodraeth Cymru (dydd Mawrth 7 Hydref) yn nodi cynlluniau cynhwysfawr i baratoi Cymru ar gyfer heriau'r gaeaf eleni. Mae'r gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol yn cael cymorth ychwanegol i baratoi ar gyfer pwysau'r gaeaf ac mae aelwydydd yn cael cymorth i gadw'n gynnes.
£1.1m i hyrwyddo Cymru Oed-gyfeillgar ar Ddiwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi £1.1m i gefnogi Swyddogion Oed-gyfeillgar ledled Cymru.
99% o fferyllfeydd bellach yn trin heintiau’r llwybr wrinol
Bydd y mwyafrif helaeth o fferyllfeydd ledled Cymru yn rhoi triniaeth ar gyfer haint cyffredin yn rhad ac am ddim a heb apwyntiad na phresgripsiwn.
Rhieni yng Nghymru i gael gwell cymorth gofal newyddenedigol
Bydd teuluoedd â babanod sâl a chynamserol yng Nghymru yn cael gwell cymorth drwy raglen newydd ar gyfer gwella safonau gofal newyddenedigol ledled y wlad.
Mwy na dwy o bob tair fferyllfa yng Nghymru bellach yn cynnig presgripsiynu electronig
Mae'r Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig, sy'n galluogi trosglwyddo presgripsiynau'n electronig rhwng meddygon teulu a fferyllfeydd, bellach ar gael mewn saith o bob 10 o fferyllfeydd yng Nghymru.
Bydd contract newydd yn gwella mynediad at ddeintyddiaeth y GIG
Bydd contract deintyddol newydd i Gymru yn gwella mynediad at ddeintyddiaeth y GIG i bawb wrth i anghenion iechyd ac atal gael eu rhoi wrth wraidd y system newydd.
Miloedd o apwyntiadau ychwanegol yn y GIG
Mae 15,000 o apwyntiadau cleifion allanol ychwanegol yn cael eu darparu ledled Cymru y mis hwn fel rhan o gynlluniau i leihau amseroedd aros hir.
Gall pob plentyn dwy oed ym Merthyr Tudful nawr dderbyn gofal plant Dechrau'n Deg am ddim
Gall pob plentyn dwy oed ym Merthyr Tudful nawr gael gofal plant am ddim, sef yr awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i ehangu rhaglen gofal plant Dechrau'n Deg ar draws ei ardal.
£4.4 miliwn ar gyfer offer diagnostig newydd yn ysbytai'r Gogledd
Bydd offer pelydr-x newydd, mwy dibynadwy, sy’n rhoi delweddau o safon uwch, yn cael eu cyflwyno i ysbytai ar draws y Gogledd.