Newyddion
Canfuwyd 3217 eitem, yn dangos tudalen 132 o 269

Y Prif Weinidog yn trafod Wcráin gyda Phwyllgor Rhanbarthau’r UE
Bydd arweinwyr Ewropeaidd yn trafod y rhyfel yn Wcráin a chydweithredu ar draws Ewrop, pan fydd y Prif Weinidog yn annerch Pwyllgor Rhanbarthau’r UE.

Dyfarnu £3 miliwn i elusennau profedigaeth ledled Cymru
Heddiw, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle, y bydd elusennau sy’n cefnogi pobl drwy brofedigaeth yn elwa ar £3 miliwn o gyllid dros y tair blynedd nesaf.

Cymru yn cynnig teithio am ddim ar drenau i ffoaduriaid Wcráin
Mae Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford wedi cyhoeddi y gall ffoaduriaid sy’n ffoi rhag y gwrthdaro parhaus yn Wcráin deithio am ddim ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru o heddiw ymlaen.

Gweinidog yr Economi yn cyhoeddi pecyn cymorth o bwys i helpu busnesau Cymru i allforio'n fyd-eang
- Buddsoddiad o £4 miliwn mewn rhaglenni i greu allforwyr newydd ac i helpu busnesau sy’n allforio eisoes i dyfu ac ehangu i farchnadoedd newydd dramor.
- Cyhoeddi rhaglen newydd o ddigwyddiadau rhyngwladol – gan gynnwys teithiau masnach i Ogledd America ac America Ladin, y Dwyrain Canol, Affrica, Asia, Awstralasia ac Ewrop.

Pecyn cymorth ffurfiol Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr yn dod i ben ar ôl gwelliant
Heddiw, mae Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Llywodraeth Cymru, Rebecca Evans, wedi cyhoeddi y bydd cymorth sy’n cael ei ddarparu i Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr ers 2019 yn dod i ben ddiwedd y mis yn sgil y cynnydd sydd wedi’i wneud gan y Cyngor, ond gan gydnabod bod gan yr awdurdod ragor o welliannau i’w gwneud.

£22m o gyllid gan Lywodraeth Cymru i gefnogi ailddatblygiad Theatr Clwyd
Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau hyd at £22m o gyllid cyfalaf ychwanegol i gefnogi'r gwaith o ailddatblygu Theatr Clwyd.

Ehangu'r rhaglen Dechrau'n Deg yng Nghymru
Mae'r rhaglen Dechrau'n Deg yn cael ei ehangu i 2,500 mwy o blant o dan bedair oed fel rhan o'r cam cyntaf yn y gwaith o ehangu gofal plant o ansawdd uchel i bob plentyn dwy oed yng Nghymru.

Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi’r buddsoddiad mwyaf erioed i leihau perygl llifogydd
Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd Julie James wedi datgelu rhaglen lifogydd fwyaf erioed Llywodraeth Cymru, gwerth rhagor na £214m dros dair blynedd.

Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi’r buddsoddiad mwyaf erioed i leihau perygl llifogydd
Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd Julie James wedi datgelu rhaglen lifogydd fwyaf erioed Llywodraeth Cymru, gwerth rhagor na £214m dros dair blynedd.

Cymru’n dechrau rhoi brechiadau atgyfnerthu ar gyfer y gwanwyn o'r wythnos hon
Mae brechiadau atgyfnerthu COVID-19 y gwanwyn yn cael eu cyflwyno yng Nghymru o'r wythnos hon.

Fferm solar yn darparu pŵer ar gyfer Ysbyty Treforys am 50 awr heb ddefnyddio unrhyw bŵer wrth gefn o'r grid yn ystod misoedd y gaeaf
Mae fferm solar gyntaf y DU sy'n eiddo i ysbyty wedi rhagori ar ddisgwyliadau drwy ddarparu digon o drydan nid yn unig i gyfrannu at anghenion pŵer dyddiol Ysbyty Treforys yn Abertawe, ond hefyd i ddarparu ar gyfer 100% o'r trydan y mae ei angen arno am gyfnod o 50 awr.