Newyddion
Canfuwyd 2966 eitem, yn dangos tudalen 133 o 248
"Datblygu yng Nghymru, gwerthu i'r byd" – Vaughan Gething
"Datblygu eich busnes yng Nghymru a gwerthu i'r byd" - dyna oedd neges Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething heddiw wrth iddo ymweld â'r gwneuthurwr a'r allforiwr o Bont-y-pŵl Flamgard Calidair i annog mwy o gwmnïau o Gymru i allforio eu nwyddau a'u gwasanaethau yn rhyngwladol.
Ymateb Llywodraeth Cymru i ddata perfformiad diweddaraf GIG Cymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb i ddata perfformiad diweddaraf GIG Cymru sydd wedi’u cyhoeddi heddiw (21 Hydref).
‘Rydym yn paratoi ar gyfer un o’r gaeafau caletaf erioed, ond bydd gwasanaethau hanfodol ar gael bob amser’ dyna addewid prif weithredwr GIG Cymru
Mae prif weithredwr GIG Cymru Andrew Goodall wedi rhybuddio bod her ddeublyg y pandemig COVID a feirysau anadlol eraill yn golygu mai hon fydd ‘un o’r gaeafau caletaf inni eu hwynebu’. Daeth ei rybudd wrth i Gynllun y Gaeaf Iechyd a Gofal Cymdeithasol GIG Cymru gael ei gyhoeddi.
Dweud eich dweud ar newidiadau arfaethedig i symudiadau da byw
Mae Llywodraeth Cymru’n gofyn am farn ar gynlluniau i newid sut y caiff da byw eu hadnabod, eu cofrestru a sut y dylid adrodd ar eu symudiadau.
Llywodraeth Cymru yn denu tîm technoleg glyfar byd-eang i Gymru
Mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi y bydd y darparwr technoleg ynni clyfar arloesol, Thermify, yn sefydlu cyfleuster yn ne Cymru.
Mae’r cwmni rhyngwladol, y mae’r entrepreneur o Silicon Valley Travis Theune yn bennaeth arno, yn bwriadu symud i safle Sony ym Mhencoed fis hwn.
“Rydyn ni eisiau sgwrs genedlaethol, gynhwysol am yr effaith y gall y mislif ei chael ar fywyd person.”
Heddiw [dydd Mercher, 20], mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynllun gweithredu i ddiddymu tlodi mislif a sicrhau urddas mislif i bawb yng Nghymru.
Lluniau newydd yn dangos maint enfawr prosiect Metro ‘uchelgeisiol a chymhleth’ Cymru
"Bydd cyflawni prosiect Metro Cymru gwerth £1bn yn un o'r rhaglenni mwyaf uchelgeisiol a chymhleth rydym erioed wedi'i chynnal."
“Rwy’n frwd dros sicrhau bod y genhedlaeth nesaf yn ystyried y Diwydiannau Creadigol yn ddewis hygyrch a boddhaus ar gyfer gyrfa” – Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden.
Mae’r Diwydiannau Creadigol yn gwneud cyfraniad sylweddol at ddiwylliant ac economi Cymru, gyda throsiant o £2.2 biliwn a gweithlu o 56,000 o bobl cyn COVID-19.
Cydgadeiryddion i arwain Comisiwn i wneud argymhellion am ddiwygio cyfansoddiadol
Bydd yr Athro Laura McAllister a’r Dr Rowan Williams yn cydgadeirio comisiwn annibynnol i ystyried dyfodol cyfansoddiadol Cymru.
Symud Economi Cymru Ymlaen: "Adferiad Tîm Cymru, a adeiladwyd gan bob un ohonom" - Gweinidog yr Economi
Bydd Llywodraeth Cymru yn dilyn polisi economaidd blaengar sy'n canolbwyntio ar well swyddi, gan leihau'r rhaniad sgiliau a mynd i'r afael â thlodi, meddai Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething heddiw.
Cymru i arddangos ei bwyd a diod ardderchog i’r byd
Mae llai na phythefnos i fynd tan fod digwyddiad bwyd a diod rhyngwladol mwyaf Cymru, BlasCymru / TasteWales, yn dychwelyd.
Miloedd o ffermydd Cymru i dderbyn cymorth talu'n gynnar
Bydd dros 15,600 o fusnesau fferm ledled Cymru yn derbyn cyfran o dros £159.6m yfory mewn taliadau Cynllun y Taliad Sylfaenol (BPS) ymlaen llaw, yn ôl cyhoeddiad gan Lesley Griffiths y Gweinidog Materion Gwledig.