Newyddion
Canfuwyd 3882 eitem, yn dangos tudalen 56 o 324
Cartrefi Conwy yn prynu safle allweddol yn Llandrillo-yn-Rhos i ddarparu tai fforddiadwy o ansawdd uchel
Mae Cartrefi Conwy, un o brif ddarparwyr tai cymdeithasol, wedi cyhoeddi eu bod wedi prynu darn allweddol o dir yn Ffordd Dinerth, Llandrillo-yn-Rhos, oddi wrth Lywodraeth Cymru.
Rhyddhau heddiw y ffilm fwyaf erioed i gael ei saethu'n llwyr yng Nghymru
Mae'r thriller HAVOC, gafodd ei chynhyrchu gyda chymorth Cymru Greadigol, yn cael ei rhyddhau heddiw ar Netflix [dydd Gwener, 25 Ebrill]. Dyma'r ffilm fwyaf erioed i gael ei saethu'n llwyr yng Nghymru, yn ôl adroddiad diweddar gan y cwmni ffrydio.
Cymru a Japan yn cryfhau eu cysylltiadau mewn sioe yn Tokyo
Mae cysylltiadau economaidd Cymru â Japan wedi cael eu cryfhau mewn sioe i fuddsoddwyr yn Tokyo.
Treialu cynlluniau i gofrestru etholwyr yn awtomatig yng Nghymru
Cymru fydd y genedl ddatganoledig gyntaf yn y DU i dreialu cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig gan ddefnyddio data i adnabod etholwyr posibl.
Presgripsiynau am ddim yng Nghymru 'wedi estyn fy oes'
Wrth i Gymru nodi deunaw mlynedd fel y genedl gyntaf yn y DU i gael gwared â thâl am bresgripsiynau, mae Ryan Perrot, sy'n bedwar deg pedwar oed ac yn byw gydag asthma difrifol yn rhannu sut y gwnaeth y polisi helpu i newid ei fywyd.
Llwyfan darllen Cymraeg newydd yn helpu dysgwyr i ynganu geiriau yng Nghymru a thu hwnt
Mae llwyfan newydd yn helpu plant i ddarllen Cymraeg, hyd yn oed os nad yw eu rhieni'n gallu gwneud hynny, trwy eu dysgu sut i ynganu geiriau.
Yr A487 yn Nhrefdraeth Sir Benfro yn wydn ar gyfer y dyfodol yn dilyn gwaith hanfodol
Mae'r A487 yn Nhrefdraeth, Sir Benfro bellach yn fwy gwydn ar gyfer y dyfodol yn dilyn y gwaith hanfodol a gwblhawyd yn gynharach eleni.
£26 miliwn i roi bywyd newydd i ganol trefi a dinasoedd ledled Cymru
Mae Grant Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru wedi cael ei estyn am ddwy flynedd arall, gyda chyllid sylweddol gwerth £26 miliwn ar gael i gefnogi canol trefi ledled Cymru.
Gwella gwydnwch yr A55 wrth nodi dwy flynedd ers agor cynllun gwerth £30m
Mae gwydnwch ar yr A55 a chyfleoedd ar gyfer teithio llesol wedi gwella ers agor y cynllun Aber i Dai'r Meibion, gwerth £30m, yn swyddogol bron i ddwy flynedd yn ôl.
Miloedd yn darganfod eu bod yn gymwys i gael cymorth ariannol ychwanegol
Mae miloedd o bobl ar incwm isel ledled Cymru wedi sicrhau £170m yn ychwanegol trwy hawlio budd-daliadau nad oeddent yn gwybod bod ganddynt yr hawl i'w cael, diolch i wasanaethau cyngor am ddim gan Lywodraeth Cymru.
Man problemus o ran fandaliaeth wedi'i drawsnewid yn barc busnes modern
Mae safle warws yng ngogledd Cymru a aeth yn adfail ac a ddaeth yn hafan ar gyfer ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi cael ei drawsnewid yn barc busnes modern gyda chymorth Llywodraeth Cymru.