Newyddion
Canfuwyd 2966 eitem, yn dangos tudalen 60 o 248
Cymru yw’r wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i gynyddu’r taliad Lwfans Cynhaliaeth Addysg
Cadarnhaodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, ei bod yn debygol mai Cymru fydd y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i gynyddu’r taliad Lwfans Cynhaliaeth Addysg.
Cyllid ychwanegol o £600,000 i undebau credyd i gefnogi cynlluniau benthyca moesegol a fforddiadwy yn ystod yr argyfwng costau byw
Heddiw, cyhoeddodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol bod parhad yn y cyllid sy’n helpu undebau credyd i estyn eu gallu i fenthyca ac i helpu mwy o bobl sydd mewn sefyllfa fregus yn ariannol.
Llywodraeth Cymru’n cefnogi cais y DU ac Iwerddon i gynnal UEFA EURO 2028
Mae Llywodraeth Cymru’n bartner llawn yn y cais uchelgeisiol ar y cyd rhwng y DU ac Iwerddon i gynnal Pencampwriaethau UEFA EURO 2028, meddai Prif Weinidog Cymru.
Cwmni adeiladu o Aberystwyth yn cynyddu ei lwyddiant diolch i fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru
Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cwmni o Aberystwyth, LEB Construction Limited, i ehangu ei weithrediadau yn Ystad Ddiwydiannol Glanyrafon yn y dre, drwy fuddsoddiad o £537,000 a fydd yn helpu'r cwmni i dyfu, mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething wedi cyhoeddi heddiw.
Ffliw Adar: Gorchymyn Cadw dan Do i'w godi ar 18 Ebrill
- Bydd y gofynion bioddiogelwch gwell a gyflwynwyd ym mis Rhagfyr fel rhan o'r Parth Atal Ffliw Adar (AIPZ) yn parhau.
- Anogir ceidwaid adar i ddefnyddio'r wythnos nesaf i baratoi ar gyfer rhyddhau adar – yn enwedig ardaloedd awyr agored.
- Dylech barhau i gysylltu â llinell gymorth Defra (Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig) ar 03459 33 55 77 os dewch o hyd i adar marw, a dylai ceidwaid gysylltu ag APHA (Yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion) ar 0300 303 8268 os ydynt yn amau bod achosion o’r clefyd.
£3.3m yn ychwanegol i weithredu’r cynllun gweithlu iechyd meddwl
Mae'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cyhoeddi £3.3m yn ychwanegol i gefnogi’r gwaith o weithredu’r Cynllun Gweithlu Iechyd Meddwl Strategol yn 2023-24.
Llys Rhosyr – Llys Brenhinol Tywysogion Gwynedd yn dod yn heneb rhif 131 Cadw
Heddiw, mae Dawn Bowden Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon wedi cyhoeddi bod Llys Rhosyr ar Ynys Môn, sef llys pwysig i Dywysogion Gwynedd yn yr oesoedd canol wedi dod i feddiant Cadw ar gyfer y wlad. Bydd hanes y safle arwyddocaol hwn felly yn cael ei gadw a’i warchod ar gyfer y genhedlaeth hon a chenedlaethau’r dyfodol.
Y Gweinidog yn canmol swyddogion yn eu rôl allweddol yn cadw cymunedau yn ddiogel ar batrôl gyda Heddlu’r De
Mae Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi bod ar batrôl gyda Heddlu’r De yn y Barri, yn cael cipolwg gwerthfawr ar y gwaith y maent yn ei wneud o ddydd i ddydd i gadw cymunedau yn ddiogel.
Llywodraeth Cymru'n parhau i gyllido cynlluniau e-feiciau llwyddiannus
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd dau gynllun ar gyfer benthyca e-feiciau sydd wedi llwyddo i annog mwy o drigolion lleol i gyfnewid eu car am feic mewn cymunedau ar draws Cymru yn derbyn arian ychwanegol am flwyddyn arall.
Llywodraeth Cymru yn rhoi £1m i apêl i helpu sefydliadau yn y sector gwirfoddol
Bydd apêl am roddion i helpu sefydliadau yn y sector gwirfoddol ymdopi drwy’r argyfwng costau byw yn elwa ar rodd o £1m gan Lywodraeth Cymru.
Gwerthu tir Baglan yn paratoi’r ffordd ar gyfer buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd, gan greu 100 o swyddi newydd a diogelu dros 500
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd safle 30 erw ar Ystad Ddiwydiannol Baglan yn cael ei werthu i Glass Systems Limited, a fydd yn diogelu 500 o swyddi yn ogystal â chreu 100 o swyddi newydd hefyd.
Gweinidog yr Economi yn cadarnhau cefnogaeth ychwanegol i helpu cyn-aelodau staff 2 Sisters i ganfod swyddi newydd
Mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething wedi cadarnhau bod £206,000 o gyllid ychwanegol ar gael i helpu cyn-staff ffatri 2 Sisters ar Ynys Môn i gael swyddi newydd.