Newyddion
Canfuwyd 2683 eitem, yn dangos tudalen 154 o 224
Gwrthlif Dros Dro yr A55 yng Nghaergybi yn dechrau heddiw
Bydd gwrthlif dros dro ar yr A55 rhwng cyffyrdd 2 – 4 tua’r dwyrain yn dechrau o heddiw ymlaen [dydd Llun, 28 Rhagfyr] fel rhan o gynlluniau wrth gefn Llywodraeth Cymru ar gyfer diwedd y cyfnod Pontio â’r UE.
Prif Weinidog Cymru yn cyhoeddi ei neges Nadolig
Yn ei neges Nadolig mae Mark Drakeford yn dweud:
Cytundeb gwan yn well na dim cytundeb – Prif Weinidog Cymru
Wrth ymateb i'r newyddion bod cytundeb wedi'i sicrhau rhwng Llywodraeth y DU a'r Undeb Ewropeaidd ynglŷn â’r telerau masnachu ar ôl Brexit, mae Llywodraeth Cymru wedi ailgadarnhau ei safbwynt hirsefydlog y byddai unrhyw gytundeb yn well na dim cytundeb.
Brother Engineering o Abertawe yn cael y golau gwyrdd i gyflenwi’r GIG yng Nghymru
Brother Engineering o Abertawe yw'r gwneuthurwr masgiau cyntaf yng Nghymru i gael y gymeradwyaeth reoleiddiol sydd ei hangen i allu cyflenwi GIG Cymru.
Mark Drakeford, y Prif Weinidog, yn galw ynghyd uwch-gynhadledd ar ddiogelwch tomenni glo
Ddoe, galwodd Mark Drakeford, y Prif Weinidog, ynghyd y drydedd uwch-gynhadledd ar ddiogelwch tomenni glo yng Nghymru.
Profi cyfresol i gael ei dreialu gan Heddlu De Cymru
Mae cynllun peilot pedair wythnos ar gyfer profion cyfresol asymptomatig gyda Heddlu De Cymru wedi'i gyhoeddi gan y Gweinidog Iechyd.
Y gronfa Cadernid Economaidd yn hanfodol i warchod 257 o swyddi gyda cwmni o Bontypŵl
Mae Cronfa Cadernid Economaidd unigryw Llywodraeth Cymru wedi helpu i warchod 257 o swyddi gyda cwmni gweithgynhyrchu rhannau ceir ym Mhontypŵl.
Bargen Twf Canolbarth Cymru gwerth £110m yn cyrraedd carreg filltir allweddol
Cyrhaeddodd Bargen Twf Canolbarth Cymru garreg filltir bwysig heddiw [dydd Mawrth, 22 Rhagfyr] wrth i Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU ac awdurdodau lleol y rhanbarth lofnodi Penawdau’r Telerau
"Ar drothwy’r Nadolig, gofynnwn i chi feddwl yn ofalus am yr hyn y ‘dylech’ ei wneud, yn hytrach na’r hyn y ‘cewch’ ei wneud."
Mae'r Prif Weinidog ac arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi neges i bobl Cymru cyn y Nadolig.
Y Gweinidog yn cyhoeddi Setliad Cyllid Llywodraeth Leol gwerth £6.3 biliwn
Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol Julie James wedi cyhoeddi y bydd cynghorau yng Nghymru yn derbyn £6.3 biliwn mewn cyllid cyfalaf a refeniw gan Lywodraeth Cymru y flwyddyn nesaf.
Carreg filltir fawr ar ffordd osgoi Caernarfon a Bontnewydd wrth i’r gwaith ar y draphont ddechrau
Mae’r fenter ar y cyd sydd yn adeiladu ffordd osgoi Caernarfon a Bontnewydd wedi cyrraedd carreg filltir fawr, wrth i’r gwaith dur gael ei godi ar ddec y ddwy draphont sy’n rhan allweddol o’r cynllun.
“Gall unrhyw un deimlo’n unig” meddai Gweinidogion Llywodraeth Cymru, “ond mae cymorth a chefnogaeth ar gael.”
Mae canfyddiadau newydd Arolwg Cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar unigrwydd yn cadarnhau bod cysylltiad cryf rhwng unigrwydd a pha mor hapus y mae rhywun, a bod pobl sy’n unig lawer yn llai bodlon â’u bywyd.