English icon English

Newyddion

Canfuwyd 2966 eitem, yn dangos tudalen 160 o 248

Welsh Government

‘System Drafnidiaeth sy’n Addas ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol – Llywodraeth Cymru yn pennu targedau uchelgeisiol yn ei gweledigaeth newydd ar gyfer trafnidiaeth

Mae adduned uchelgeisiol i gynyddu nifer y bobl sy'n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, cerdded a beicio wrth wraidd Strategaeth Drafnidiaeth newydd Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd ddydd Gwener.

Professor Charlotte Williams-2

Y Gweinidog yn croesawu’r adroddiad addysg ar gymunedau duon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig

Mae’r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, wedi derbyn holl argymhellion adroddiad ar Gymunedau, Cyfraniadau a Chynefin Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn y Cwricwlwm Newydd i ysgolion.

Welsh Government

Llywodraeth Cymru i benodi Cydgysylltydd Troseddau Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt ar gyfer Cymru gyfan

Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig:

VG press conference-2

Taliad bonws i staff y Gwasanaeth Iechyd a gofal cymdeithasol

Heddiw (dydd Mercher 17 Mawrth), mae’r Gweinidog Iechyd wedi cyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru yn ariannu taliad bonws i staff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a staff gofal cymdeithasol i gydnabod eu cyfraniad eithriadol yn ystod pandemig COVID-19.

Welsh Government

Cymorth gan Lywodraeth Cymru yn rhoi’r golau gwyrdd ar gyfer gwaith ar Bont Gludo Casnewydd

Mae gwaith adfer mawr ar Bont Gludo Casnewydd wedi cael y golau gwyrdd heddiw diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru.

Community Facilities - Llansaint Welfare Hall-2

Bron i £2m o gyllid Llywodraeth Cymru yn rhoi ail wynt i leoedd cymunedol

Heddiw, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, Jane Hutt, bod £1,946,849 yn cael ei roi i wella cyfleusterau cymunedol ledled Cymru drwy’r Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol.

Welsh Government

Lleoliadau gweithio o bell wedi’u cadarnhau ar draws Cymru

Bydd lleoliadau gweithio o bell ar gael ar draws Cymru a fydd yn rhoi dewis arall i bobl yn lle gweithio gartref neu weithio mewn amgylchedd swyddfa traddodiadol.

Welsh Government

Hwb ariannol i gynllun Toyota i leihau allyriadau carbon

Mae cynlluniau gan Toyota i leihau'r defnydd o ynni a lleihau allyriadau carbon yn ei ffatri yng Nglannau Dyfrdwy yn cael eu cefnogi gan Lywodraeth Cymru, gyda dyfarniad o £375,000 o'i Gronfa Dyfodol Economaidd.

Welsh Government

Cynllun pum mlynedd i drawsnewid gwasanaethau fferylliaeth mewn ysbytai yng Nghymru

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething, wedi cytuno ar gynllun pum mlynedd newydd a fydd yn chwyldroi gwasanaethau fferylliaeth mewn ysbytai yng Nghymru. Bydd y cynllun yn trawsnewid y ffordd y bydd rhai o’r meddyginiaethau mwyaf arloesol sy’n achub bywydau, gan gynnwys therapïau canser, gwrthfiotigau mewnwythiennol a maeth drwy’r gwythiennau yn cael eu paratoi.

Senedd outside-2

Deddfwriaeth i reoli etholiad y Senedd yn ystod y pandemig COVID yn cael y Cydsyniad Brenhinol

Mae Ei Mawrhydi y Frenhines wedi rhoi’r Cydsyniad Brenhinol i ddeddfwriaeth ar gyfer sicrhau y gall etholiad nesaf y Senedd ddigwydd yn ddiogel, er gwaetha’r ffaith bod pandemig y coronafeirws yn parhau.

Welsh Government

Llywodraeth Cymru yn dechrau sgwrs ar Metro y De-orllewin

Bydd pobl sy'n byw yn Ne-orllewin Cymru yn cael cyfle i leisio eu barn am opsiynau trafnidiaeth yn eu hardal.

Welsh Government

Y Prif Weinidog yn cyhoeddi coedlannau coffa

Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi cyhoeddi y bydd coedlannau coffa’n cael eu plannu er cof am y bobl a fu farw o ganlyniad i coronafeirws.